Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gydnabod Wenglish yn iaith swyddogol, fel Sgoteg
yn yr Alban.
Gwybodaeth ychwanegol: Mae Wenglish yn cyfeirio at dafodieithoedd
Saesneg a siaredir yng Nghymru gan bobl Cymru. Mae dylanwad
gramadeg y Gymraeg yn drwm ar y tafodieithoedd hyn ac yn aml maent
yn cynnwys geiriau sy’n tarddu o’r Gymraeg. Yn ogystal
â’r geiriau a’r gramadeg gwahanol, mae amrywiaeth
o acenion i’w cael ledled Cymru - o dafodiaith Caerdydd i
iaith Cymoedd y De a Gorllewin Cymru.
Prif ddeisebydd: Adam Rhys Davies
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 19 Mawrth 2013
Nifer y llofnodion: 10